NHS Jobs are developing a bilingual service for Wales which will be launched during July 2007. The new service will enable candidates to access information in Welsh, or a combination of Welsh and English. NHS Jobs are working closely with the Welsh Language Board in order to develop a service that will be easy to use.
Almost all parts of the service will be translated but there will be a few areas that will not be translated. For example, links to some English websites and documents that were originally produced for English NHS organisations will not be translated into Welsh. This is because these documents are only relevant to NHS organisations in England. All documents which are relevant to NHS Wales will be available in a bilingual format on the candidate website.
After the new bilingual service is launched we would welcome your feedback. If you think that the service could be improved, please complete the feedback form on the NHS Jobs site which can be found here.
NHS Jobs will continue to work closely with NHS Wales and the Welsh Language Board in order to continue making improvements to the site, as NHS Jobs aim to provide a first class service for the people in Wales.
Mae Swyddi'r GIG yn datblygu gwasanaeth dwyieithog i Gymru sydd i'w lawnsio yn ystod Mis Gorffennaf 2007. Bydd y gwasanaeth newydd yn fodd i ymgeiswyr gael gwybodaeth yn y Gymraeg, neu mewn cyfuniad o'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae Swyddi'r GIG yn gweithio'n agos â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu gwasanaeth a fydd yn hawdd ei ddefnyddio.
Byddwn yn cyfieithu bron pob rhan o'r gwasanaeth ond bydd nifer o feysydd na chaiff eu cyfieithu. Er enghraifft, ni chyfieithir dolennau i rai gwefannau Saesneg a dogfennau a luniwyd yn wreiddiol ar gyfer cyrff y GIG yn Lloegr. Mae hyn gan fod y dogfennau hyn ond yn berthnasol i'r GIG yn Lloegr. Bydd pob dogfen sydd yn berthnasol i GIG Cymru ar gael ar ffurf ddwyieithog ar wefan yr ymgeiswyr.
Yn dilyn lawnsiad y gwasanaeth dwyieithog newydd, byddwn yn croesawu'ch ôl-borth. Os ydych o'r farn bod lle i wella'r gwasanaeth, llenwch y ffurflen ôl-borth ar safle Swyddi'r GIG sydd ar gael yma
Bydd Swyddi'r GIG yn parhau i weithio'n agos â GIG Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn parhau i wneud gwelliannau i'r safle, gan mai nod Swyddi'r GIG yw darparu gwasanaeth o'r ansawdd uchaf i'r bobl yng Nghymru.